Social Media Producer / Cynhyrchydd Cyfryngau Cymdeithasol
Graduate job Cardiff (Cardiff) Personal services
Job description
News and Current Affairs is the key driver for online traffic in BBC Wales. Averaging between 2.6-2.9 million unique users a week, we need to ensure that our content is accessible to an increasingly disparate and diverse audience. Figures vary, but between half and two thirds of our users now access BBC Wales News content on mobile and tablet devices. We need to ensure that we stay in tune with our audience and deliver content to them in the way that they want to consume it.
The role will tie in closely with a recent review in News which has led to reinvestment in the English language online team, aimed at providing better digital journalism.
Newyddion a Materion Cyfoes yw'r prif ysgogwr ar gyfer traffig ar-lein yn BBC Cymru. Mae ganddynt rhwng 2.6 a 2.9 miliwn o ddefnyddwyr unigryw bob wythnos ar gyfartaledd, ac mae angen i ni sicrhau bod ein cynnwys yn hygyrch i gynulleidfa sy'n gynyddol wahanol ac amrywiol. Mae ffigurau'n amrywio, ond mae rhwng hanner a dwy ran o dair o ddefnyddwyr bellach yn manteisio ar gynnwys Newyddion BBC Cymru drwy ddyfeisiau symudol a llechi. Rhaid i ni sicrhau ein bod yn ymateb i'n cynulleidfaoedd a chyflwyno cynnwys iddynt yn y ffordd y maent am ei dderbyn.
Bydd y rôl yn plethu'n agos gydag adolygiad diweddar o'r gwasanaeth Newyddion sydd wedi arwain at ail-fuddsoddi yn y tîm ar-lein Saesneg, gyda'r nod o gynnig gwell newyddiaduraeth ddigidol.
Role Responsibility
A key priority for the role will be making sure that news from BBC Wales reaches as wide an audience as possible, on the platforms that they want to use.
The Social Media Producer for News will be expected to give insights into how to create and adapt content for a variety of different platforms, principally Facebook, Twitter and Instagram.
You will also be expected to pass on best practice in terms of creating engaging content in words, video, images and graphics to the wider news online team.
Un o'r blaenoriaethau allweddol i'r rôl fydd sicrhau bod newyddion o BBC Cymru yn cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosibl, ar y llwyfannau maent am eu defnyddio.
Bydd disgwyl i'r Cynhyrchydd Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer yr adran Newyddion rannu dealltwriaeth o ran sut i greu ac addasu cynnwys ar gyfer amrywiaeth o lwyfannau, Facebook, Twitter ac Instagram yn bennaf, ond gall hynny newid dros amser.
Bydd disgwyl i chi rannu arfer gorau o ran creu cynnwys difyr ar ffurf geiriau, fideo, lluniau a graffeg â'r tîm newyddion ar-lein ehangach.
The Ideal Candidate
You will have a successful record in working in an online production environment with demonstrable experience and enthusiasm for social media and interactivity, and an excellent knowledge of developments in social media and related areas. With first class journalism skills, you will have a comprehensive knowledge of writing and editing content for publication to high editorial standards, as well as evidence of sound editorial and community judgement and understanding of the power of online communities and the BBC Wales News target audience.
Bydd gennych hanes llwyddiannus o weithio mewn amgylchedd cynhyrchu ar-lein gyda phrofiad amlwg o'r cyfryngau cymdeithasol a rhyngweithedd a brwdfrydedd drostynt, yn ogystal â gwybodaeth ragorol am ddatblygiadau ym maes y cyfryngau cymdeithasol a meysydd perthnasol. Byddwch yn meddu ar sgiliau newyddiaduraeth o'r radd flaenaf a bydd gennych wybodaeth gynhwysfawr am ysgrifennu a golygu cynnwys i'w cyhoeddi i safonau golygyddol uchel, yn ogystal â thystiolaeth o farn olygyddol a chymunedol gadarn a dealltwriaeth o bŵer cymunedau ar-lein a chynulleidfa darged Newyddion BBC Cymru.
Package Description
12 month Fixed Term Contract / Attachment
Cytundeb Tymor Penodol / Ymlyniad o 12 mis
About the Company
We don’t focus simply on what we do – we also care how we do it. Our values and the way we behave are very important to us. Please make sure you’ve read about our values and behaviours in the document attached below. You’ll be asked questions relating to them as part of your application for this role.
Nid ydym yn canolbwyntio ar yr hyn a wnawn yn unig - mae'r ffordd rydym yn ei gyflawni hefyd yn bwysig i ni. Mae ein gwerthodd a'r ffordd rydym yn ymddwyn yn bwysig iawn i ni. Sicrhewch eich bod wedi darllen am ein gwerthoedd a'n hymddygiadau yn y ddogfen sydd wedi'i hatodi isod. Byddwn yn gofyn cwestiynau sy'n ymwneud â hwy fel rhan o'ch cais am y rôl hon.