Producer / Cynhyrchydd - Radio Wales
Graduate job Cardiff (Cardiff)
Job description
Radio Wales is looking for a Producer to join the team in Cardiff. Radio Wales broadcasts seven days a week, 20 hours a day. The station aims to inform and entertain its audiences with a wide variety of programmes, from daily music shows, news and sport to specialist features.
Mae Radio Wales yn chwilio am Gynhyrchydd i ymuno â'r tîm yng Nghaerdydd. Mae Radio Wales yn darlledu saith diwrnod yr wythnos, 20 awr y dydd. Mae'r orsaf yn anelu at hysbysu a diddanu ei chynulleidfa gydag amrywiaeth eang o raglenni, o raglenni cerddoriaeth dyddiol, newyddion a chwaraeon i raglenni nodwedd arbenigol.
Role Responsibility
You will produce live and pre-recorded programmes and content to a general or specific brief, in line with BBC and external legislation and guidelines (eg Ofcom), and including all relevant and up to date compliance guidelines.
You will contribute, develop and deliver ideas for new series, programmes and items, using relevant specialist knowledge and expertise and you will supervise and lead production teams as required, including the planning and management of resources.
Byddwch yn cynhyrchu rhaglenni a chynnwys byw a rhai sydd wedi'u recordio ymlaen llaw ar gyfer briff cyffredinol neu benodol, yn unol â chanllawiau'r BBC a chanllawiau a deddfwriaeth allanol (ee Ofcom), ac yn cynnwys yr holl ganllawiau cydymffurfio perthnasol a diweddar.
Byddwch yn cyfrannu, datblygu a chyflwyno syniadau ar gyfer cyfresi, rhaglenni ac eitemau newydd, gan ddefnyddio gwybodaeth ac arbenigedd perthnasol a byddwch yn goruchwylio ac arwain timau cynhyrchu fel y bo angen, gan gynnwys cynllunio a rheoli adnoddau.
The Ideal Candidate
You will have a sound understanding of requirements of live and pre recorded output and ability to demonstrate necessary skills and experience in producing and contributing to programmes together with a thorough understanding of Radio Wales, its output and of its target audience and strategy in increasing listener figures.
You will have sound editorial judgement and the ability to develop original ideas and oversee their transition to air with a thorough knowledge of Wales and Welsh affairs and how they affect output.
A thorough knowledge of the techniques of radio production and their use in a range of output with an ability to write concisely and creatively in order to produce excellent briefing material for presenters and for other team members is essential.
You will have experience of managing a team effectively when required and inspiring excellent content, ensuring that everyone within the team works towards the same aim.
Bydd gennych ddealltwriaeth gadarn o ofynion allbwn byw ac wedi'i recordio ymlaen llaw a'r gallu i ddangos y sgiliau a'r profiad angenrheidiol o gynhyrchu a chyfrannu at raglenni ynghyd â dealltwriaeth drylwyr o Radio Wales, ei allbwn a'i gynulleidfa darged a'i strategaeth o ran gwella'r ffigurau gwrando.
Bydd gennych farn olygyddol gadarn a'r gallu i ddatblygu syniadau gwreiddiol a goruchwylio’r broses o'u rhoi ar yr awyr gyda gwybodaeth drylwyr am Gymru a materion Cymreig a sut maent yn effeithio ar allbwn.
Mae gwybodaeth drylwyr am dechnegau cynhyrchu radio a'r defnydd ohonynt mewn amrywiaeth o allbwn gyda'r gallu i ysgrifennu'n gryno ac yn greadigol er mwyn cynhyrchu deunydd briffio gwych i gyflwynwyr ac i aelodau eraill o'r tîm yn hanfodol.
Bydd gennych brofiad o reoli tîm yn effeithiol pan fo angen ac ysbrydoli cynnwys gwych, gan sicrhau bod pawb yn y tîm yn gweithio tuag at yr un nod.
Package Description
1 x 12 Month Fixed Term Contract / Attachment
1 x Cytundeb Tymor Penodol / Ymluniad o 12 mis
1 x 11 Month Fixed Term Contract / Attachment
1 x Cytundeb Tymor Penodol / Ymluniad o 11 mis
About the Company
We don’t focus simply on what we do – we also care how we do it. Our values and the way we behave are very important to us. Please make sure you’ve read about our values and behaviours in the document attached below. You’ll be asked questions relating to them as part of your application for this role.
Nid ydym yn canolbwyntio ar yr hyn a wnawn yn unig - mae'r ffordd rydym yn ei gyflawni hefyd yn bwysig i ni. Mae ein gwerthodd a'r ffordd rydym yn ymddwyn yn bwysig iawn i ni. Sicrhewch eich bod wedi darllen am ein gwerthoedd a'n hymddygiadau yn y ddogfen sydd wedi'i hatodi isod. Byddwn yn gofyn cwestiynau sy'n ymwneud â hwy fel rhan o'ch cais am y rôl hon.