Producer Crimewatch / Cynhyrchydd Crimewatch
Graduate job Wales, United Kingdom Journalism / PR
Job description
The BBC Wales Factual and Music department produces a range of programmes for both local and Network TV including Crimewatch, The One Show, Bargain Hunt and X Ray.
This is a brand new role on the series, offering the opportunity to lead the production team and provide a significant contribution to an established and successful series. The Producer will manage a team of directing / shooting APs, a forward planning AP, Researchers and support staff. You will also work with the Production Manager and report directly to the Executive Editor who will continue to oversee the output. You will also collaborate closely with colleagues from Online to develop Crimewatch’s digital offering.
Mae adran Ffeithiol a Cherddoriaeth BBC Cymru yn cynhyrchu ystod o raglenni ar gyfer teledu lleol a theledu Rhwydwaith gan gynnwys Crimewatch, The One Show, Bargain Hunt ac X Ray.
Mae hon yn rôl newydd sbon ar y gyfres, yn cynnig cyfle i arwain y tîm cynhyrchu a gwneud cyfraniad sylweddol i gyfres hirsefydlog a llwyddiannus. Bydd y Cynhyrchydd yn rheoli tîm o Is-gynhyrchwyr cyfarwyddo/ffilmio, Is-gynhyrchydd blaengynllunio, Ymchwilwyr a staff cymorth. Byddwch hefyd yn gweithio gyda'r Rheolwr Cynhyrchu ac yn atebol yn uniongyrchol i'r Golygydd Gweithredol a fydd yn goruchwylio'r allbwn. Byddwch hefyd yn cydweithio'n agos â chydweithwyr o'r adran Ar-lein er mwyn datblygu arlwy ddigidol Crimewatch.
Role Responsibility
You will be responsible for interpreting ideas/stories in a way that demonstrates an understanding of the artistic potential of the television/online medium and effectively convey the intention, style and mood of the programme.
Byddwch yn gyfrifol am ddehongli syniadau/straeon mewn ffordd sy'n dangos dealltwriaeth o botensial artistig y cyfrwng teledu/ar-lein ac sy'n cyfleu bwriad, arddull a naws y rhaglen yn effeithiol.
The Ideal Candidate
The successful candidate will be an experienced Producer with a substantial background in managing the production of short films and live studio programming. You will be an accomplished and creative team leader with excellent communication skills. Journalism training, a background of working in journalistic programmes and/or programmes dealing with crime or the police is essential, along with drive, energy, enthusiasm and the ability to work with conflicting priorities and deadlines.
You will be experienced in working with a range of contributors and understand how to handle confidential data and sensitive and challenging subject matter, where factual accuracy is vital. This role requires a thorough understanding of legal and editorial guidelines, and experience in scripting and producing short films yourself, and in overseeing the production and editing of short films to a very high standard.
It is essential that you have creative ideas about how to deliver stories appropriate to our audience and experience of dramatic reconstruction would be beneficial. An understanding of how Crimewatch and its content can evolve to suit a digital audience would also be an advantage.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn Gynhyrchydd profiadol â phrofiad sylweddol o reoli'r broses o gynhyrchu ffilmiau byr a rhaglenni byw yn y stiwdio. Byddwch yn arweinydd tîm galluog a chreadigol â sgiliau cyfathrebu gwych. Mae hyfforddiant newyddiadurol, profiad o weithio ar raglenni newyddiadurol a/neu raglenni sy'n ymdrin â throsedd neu'r heddlu yn hanfodol, ynghyd ag egni, brwdfrydedd a'r gallu i weithio gyda blaenoriaethau croes ac o fewn terfynau amser.
Mae'n hanfodol bod gennych brofiad o weithio gydag amrywiaeth o gyfranwyr ac yn deall sut i drin data cyfrinachol a phynciau sensitif a heriol, lle mae cywirdeb ffeithiol yn hanfodol. Mae'r rôl hon yn gofyn am ddealltwriaeth fanwl o ganllawiau cyfreithiol a golygyddol, a phrofiad o sgriptio a chynhyrchu ffilmiau byr eich hun ac o oruchwylio'r broses o gynhyrchu a golygu ffilmiau byr i safon uchel iawn.
Mae'n hanfodol bod gennych syniadau creadigol am sut i gyflwyno straeon sy'n benodol i'n cynulleidfa a byddai profiad o ail-greu golygfeydd dramatig yn fanteisiol. Byddai dealltwriaeth o'r ffordd y gall Crimewatch a'i chynnwys esblygu ar gyfer cynulleidfa ddigidol yn ddefnyddiol hefyd.
Package Description
6 Months Fixed Term Contract / 6 mis Cytundeb Tymor Penodol
About the Company
We don’t focus simply on what we do – we also care how we do it. Our values and the way we behave are very important to us. Please make sure you’ve read about our values and behaviours in the document attached below. You’ll be asked questions relating to them as part of your application for this role.
Nid ydym yn canolbwyntio ar yr hyn a wnawn yn unig - mae'r ffordd rydym yn ei gyflawni hefyd yn bwysig i ni. Mae ein gwerthodd a'r ffordd rydym yn ymddwyn yn bwysig iawn i ni. Sicrhewch eich bod wedi darllen am ein gwerthoedd a'n hymddygiadau yn y ddogfen sydd wedi'i hatodi isod. Byddwn yn gofyn cwestiynau sy'n ymwneud â hwy fel rhan o'ch cais am y rôl hon.