Assistant Scheduler / Trefnydd Cynorthwyol - Casualty
Graduate job Cardiff (Cardiff)
Job description
BBC Cymru Wales is a drama production centre for excellence and is well known for series such as Casualty, Doctor Who and Pobol y Cwm. You will be joining BBC Casualty at an exciting time in BBC Wales' purpose-built drama production centre at Roath Lock, Cardiff Bay.
Mae BBC Cymru Wales yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer cynhyrchu drama ac mae'n adnabyddus am gyfresi fel Casualty, Doctor Who, a Pobol y Cwm. Byddwch yn ymuno â BBC Casualty ar adeg gyffrous yng nghanolfan cynhyrchu drama bwrpasol newydd BBC Cymru ym Mhorth y Rhath, Bae Caerdydd.
Role Responsibility
As Assistant Scheduler you will assist the Programme Scheduler in all aspects of creating and maintaining filming schedules for a busy continuing drama. You will be required to break down scripts into scheduling software prior to scheduling. Coupled with this you will write and analyse reports, update production data and liaise with Editorial and Production teams to ensure the smooth running of the schedules in preparation through to filming.
Fel Trefnydd Cynorthwyol byddwch yn cynorthwyo Trefnydd y Rhaglen ym mhob agwedd ar greu a chynnal amserlenni ffilmio ar gyfer drama barhaus brysur. Bydd gofyn i chi ddadansoddi sgriptiau yn feddalwedd amserlennu cyn y broses amserlennu. Yn ogystal â hyn byddwch yn ysgrifennu ac yn dadansoddi adroddiadau, diweddaru data cynhyrchu a chydgysylltu â'r timau Golygyddol a Chynhyrchu i sicrhau y caiff yr amserlenni eu cynnal yn ddidrafferth o'r broses baratoi i'r gwaith ffilmio.
The Ideal Candidate
You will have experience of working on a busy drama production with an understanding of Editorial needs and an ability to preserve these in an achievable schedule. You will have good communication skills, be numerically proficient and have a good standard of written English. Additionally, you will also be able to maintain good attention to detail whilst being able to keep the bigger picture in view. Knowledge of Movie Magic scheduling software and other office applications, especially Excel spread sheets is essential.
Bydd gennych brofiad o weithio ar gynhyrchiad drama prysur gyda dealltwriaeth o anghenion Golygu a'r gallu i'w cynnal mewn amserlen gyraeddadwy. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu da, sgiliau rhifedd cadarn a byddwch yn meddu ar Saesneg ysgrifenedig o safon dda. Hefyd, byddwch yn gallu talu sylw da i fanylion tra'n cadw'r darlun ehangach mewn cof. Mae gwybodaeth am feddalwedd amserlennu Movie Magic a chymwysiadau swyddfa eraill, yn arbennig taenlenni Excel yn hanfodol.
Package Description
6 month Fixed Term Contract / Attachment
Cytundeb Tymor Penodol / Ymlyniad o 6 mis
About the Company
We don’t focus simply on what we do – we also care how we do it. Our values and the way we behave are very important to us. Please make sure you’ve read about our values and behaviours in the document attached below. You’ll be asked questions relating to them as part of your application for this role.
Nid ydym yn canolbwyntio ar yr hyn a wnawn yn unig - mae'r ffordd rydym yn ei gyflawni hefyd yn bwysig i ni. Mae ein gwerthodd a'r ffordd rydym yn ymddwyn yn bwysig iawn i ni. Sicrhewch eich bod wedi darllen am ein gwerthoedd a'n hymddygiadau yn y ddogfen sydd wedi'i hatodi isod. Byddwn yn gofyn cwestiynau sy'n ymwneud â hwy fel rhan o'ch cais am y rôl hon.